Math o gyfrwng | heddlu |
---|---|
Daeth i ben | 1922 |
Dechrau/Sefydlu | 1822 |
Olynydd | Garda Síochána |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cwnstabliaeth Frenhinol Iwerddon, enw swyddogol Royal Irish Constabulary (Gwyddeleg: Constáblacht Ríoga na hÉireann; a elwir yn syml yn Irish Constabulary rhwng 1836 ac 1867) oedd yr heddlu yn Iwerddon o 1822 hyd 1922, pan oedd y wlad i gyd yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Bu heddlu dinesig ar wahân, sef Heddlu Metropolitan Dulyn (DMP), yn patrolio'r brifddinas a rhannau o Swydd Wicklow, ac yn ddiweddarach roedd gan ddinasoedd Derry a Belfast, gyda'u heddluoedd eu hunain yn wreiddiol, adrannau arbennig o fewn yr RIC.[1] Am y rhan fwyaf o'i hanes, roedd cyfansoddiad ethnig a chrefyddol yr RIC yn cyfateb yn fras i boblogaeth Iwerddon, er bod Protestaniaid Eingl-Wyddelig yn cael eu gorgynrychioli ymhlith ei huwch swyddogion.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Tobias